Mar 24

Gwirfoddoli Cyd-gymorth yng Nghaerdydd

Tasglu Gwirfoddoli COVID 19 Cyngor Caerdydd

.Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd i alluogi trigolion i geisio cynorthwyo ei gilydd trwy gyfnod y feirws COVID-19.

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un a fyddai’n hoffi gwirfoddoli ei amser i helpu pobl eraill sydd wedi eu heffeithio gan y sefyllfa bresennol i gydlynu eu hymdrechion trwy wefan Gwirfoddoli Caerdydd, sy’n gallu rhoi gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ar hyn o bryd.

Mae’r wefan yn gweithredu fel gwasanaeth broceru, gan baru pobl sydd eisiau helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas a bydd yn helpu i ddiogelu gwirfoddolwyr a’r rhai maent yn ceisio eu helpu trwy reoli cysylltiadau mewn ffordd briodol, gan gynnwys hwyluso gwiriadau GDG lle bo angen.

Er ein bod yn croesawu ymateb y gymuned a’r don o ewyllys da sy’n lledaenu ar draws y ddinas ar hyn o bryd, dymuna’r Cyngor hefyd rybuddio unigolion a fydd yn derbyn cymorth o’r posibilrwydd o sgamiau posib neu rai yn achub ar gyfle i fanteisio ar yr adeg hon.

(Stori Ystafell Newyddion Cyngor Caerdydd yn llawn)

Yn ogystal â chydlynu cyfleoedd, mae’r Cyngor yn cyhoeddi canllaw i wirfoddolwyr a’r rheiny sydd mewn angen er mwyn sicrhau y gall pawb aros yn ddiogel ac i amddiffyn lles pobl.

Grwpiau Cyd-gymorth Gwirfoddol yng Nghaerdydd

Wedi eu hysbrydoli gan y wefan Covid-19 Mutual Aid UK, mae grwpiau o wirfoddolwyr sy’n cefnogi grwpiau cymunedol lleol yn trefnu cyd-gymorth ledled Caerdydd yn ystod yr achos hwn o feirws Covid-19 yn y DG. Maen nhw’n canolbwyntio ar ddarparu adnoddau a chysylltu pobl â’u grwpiau lleol agosaf, gwirfoddolwyr parod a’r rheiny sydd mewn angen. Cliciwch yma i ddod o hyd i’ch grŵp lleol. [Saesneg yn unig]

Mae’r gwefannau hyn hefyd yn cynnig rhestrau o’r grwpiau hynny yng Nghaerdydd, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau:

Cyd-gymorth Caerdydd [Saesneg yn unig]

Cymydog yn helpu cymydog: rhestr o grwpiau lleol a thudalen adnoddau ychwanegol defnyddiol

Rhannu Caerdydd – Tudalen COVID-19 [Saesneg yn unig]

Y grwpiau cymunedol ac adnoddau yng Nghaerdydd sydd wedi eu sefydlu mewn ymateb i Covid-19.

Awgrymiadau a Chanllawiau i Wirfoddolwyr ac Aelodau o’r Cyhoedd

Gwirfoddolwyr

  • Peidiwch â mynd i gartrefi pobl, hyd yn oed os cewch wahoddiad
  • Ewch mewn parau lle bo’n bosib
  • Wrth ymweld â phobl, cadwch o leiaf 1 metr (3 troedfedd) rhyngoch chi ac unrhyw un arall
  • Osgowch gyswllt agos gyda phobl sydd â symptomau coronafeirws
  • Teithiwch ar drafnidiaeth gyhoeddus dim ond pan fydd angen
  • Peidiwch â rhoi eich manylion personol megis rhif ffôn, cyfeiriad, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unigolion.
  • Peidiwch â rhoi na benthyg arian i unigolion, na chymryd taliadau personol ar gyfer tasgau

Y Cyhoedd

Dylai pawb wneud yr hyn a allant i atal coronafeirws rhag lledaenu. Mae’n hynod bwysig i bobl sy’n 70 oed neu’n hŷn, sydd â chyflwr iechyd hirdymor, sy’n feichiog a/neu sydd â system imiwnedd wannach

  • Peidiwch â rhoi eich manylion banc, rhif PIN na chyfrineiriau i unrhyw un
  • Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn i rywun arall fynd i’r siopau ar eich rhan
  • Gofynnwch i’r person am fanylion adnabod i gadarnhau mai dyma’r person rydych yn disgwyl iddo ymweld â chi.
  • Os bydd rhywun yn honni ei fod yn dod o gwmni neu sefydliad, dylech bob amser ofyn a gwirio prawf adnabod. Os yn ansicr, chwiliwch yn annibynnol am rif y cwmni o gyfeiriadur a ffoniwch i wirio.
  • Defnyddio cadwyn drws i’ch rhoi mewn rheolaeth ac ystyried defnyddio cynllun cyfrinair
  • Gofynnwch am dderbynneb ar gyfer unrhyw siopa cyn rhoi unrhyw arian – peidiwch â thalu arian parod ymlaen llaw (er enghraifft ar gyfer bwydydd)
  • Osgowch gyswllt agos cymaint â phosibl
  • Dylai bagiau siopa gael eu gadael ar eich stepen drws.  Peidiwch â chaniatáu unrhyw wirfoddolwr i’ch cartref dan unrhyw amgylchiadau

Cwestiynau Cyffredin Eraill

Cwestiynau Cyffredin Covid-19 Mutual Aid UK [Saesneg yn unig]

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd