Mae cynllunio ar gyfer argyfwng a gwydnwch yn sicrhau bod gennym y trefniadau a’r gweithdrefnau cywir ar waith er mwyn ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau neu argyfyngau mawr sy’n digwydd yng Nghaerdydd megis llifogydd, tanau, gollyngiadau cemegol neu ddamweiniau trafnidiaeth.
Byddwn yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, y GIG, a chwmnïau trafnidiaeth a chyfleustodau i ddatblygu cynlluniau argyfwng lleol er mwyn sicrhau y gallwch ddarparu ymateb effeithiol i ddigwyddiadau argyfyngus a chadw cymunedau’n ddiogel.