Asesu risgiau

Asesu risgiau yw un o’r prif ffyrdd o benderfynu sut yr ydym yn cynllunio a pharatoi ar gyfer argyfyngau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllawiau ar Asesu Risgiau​​​​​​ a Chofrestr Risgiau Genedlaethol.  Mae’r gofrestr yn ddogfen gyfeirio ddefnyddiol i’r rheiny sy’n ymateb i argyfyngau wrth iddynt asesu risgiau yn yr ardaloedd lle maent yn gweithredu.

Yn ne Cymru, mae asiantaethau lleol yn cydweithio i gynnal Cofrestr Risgiau De Cymru sydd wedi’i seilio ar y Gofrestr Risgiau Genedlaethol. Mae gwaith wedi dechrau i wella cydnerthedd ar sail ei chanlyniadau.

Yng Nghaerdydd mae ein gwaith yn canolbwyntio ar y gwahanol fathau o beryglon yn ardal Caerdydd a allai achosi tarfu sylweddol ar ein ffordd arferol o fyw.

Gan ddefnyddio canllawiau cenedlaethol a Chofrestr Risgiau De Cymru fel sail, mae Cyngor Caerdydd wedi cydweithio gyda’i bartneriaid allweddol a sefydliadau arbenigol eraill gan gynnwys y Swyddfa Dywydd, Associated British Ports, British Telecom, Western Power Distribution and United Utilities i lunio Cofrestr Risgiau Ardal Caerdydd (146kb PDF).

Y gofrestr yw’r sail ar gyfer parodrwydd amlasiantaethol am argyfwng yng Nghaerdydd, gan ein helpu ni i gyd i ganfod a blaenoriaethu ein hadnoddau er mwyn ymdrin â’r materion mae arnynt angen ein sylw fwyaf.

Mae hefyd wedi’i bwriadu i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r mathau o beryglon mae Caerdydd yn eu hwynebu, ac i annog unigolion a sefydliadau i feddwl am eu parodrwydd hwythau.

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd