Amdanom ni

Mae EVAC Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sy’n cydweithio’n agos i ddarparu cyngor a chymorth i helpu pobl a chymunedau i fod yn barod i ymdopi â digwyddiadau mawr neu argyfyngau a allai godi yng Nghaerdydd, megis llifogydd neu dywydd garw, neu ddamweiniau trafnidiaeth.

Fe gewch wybodaeth a chyngor gan gynnwys awgrymiadau ynghylch aros yn ddiogel yn eich cartref, yn eich cymuned ac yn y gwaith os bydd digwyddiad neu argyfwng.

Ein prif nodau ar gyfer y wefan hon yw:

  1. Darparu gwybodaeth ynghylch sut i baratoi ac ymateb i argyfyngau.
  2. Dweud wrthych chi sut y gallwch gael negeseuon pwysig ac esbonio sut y caiff y rhain eu cyfleu ichi.
  3. Darparu mapiau a gwybodaeth ategol er mwyn ichi weld lle ydych yn rhwydd a ble i fynd os bydd digwyddiad mawr.

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd