May 09

Gorsafoedd nextbike newydd wedi eu hychwanegu at Gynllun Caerdydd

Mae nextbike wedi ychwanegu chwe gorsaf newydd yr wythnos hon, er mwyn ateb y galw anhygoel gan ddefnyddwyr, ac wedi datgelu bod defnyddwyr wedi gwneud digon o filltiroedd i feicio o gwmpas y byd dros ddeg o weithiau.

Mae nextbike, sy’n dathlu ei ben-blwydd cyntaf yn y brifddinas ym mis Mai, yn ychwanegu ar hyn o bryd at y 50 o orsafoedd a’r 500 o feiciau sydd ledled y ddinas, gyda’r nod o gynyddu’r niferodd i 1,000 o feiciau a 100 o orsafoedd.

Caiff y chwe gorsaf ddocio eu gosod mewn lleoliadau yn Sblot, Butetown, Grangetown a Thredelerch yn ogystal â’r tu allan i orsaf Parc Ninian.

Darllenwch mwy ar wefan wales247.co.uk

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd