Nov 30

Cymru v Y Barbariaid

Map Unavailable

: 30/11/2019
: 11:45 am - 4:45 pm
: Stadiwm Principality


Bydd timau cenedlaethol dynion a merched Cymru yn wynebu’r tîm gwahoddiadol enwog mewn gemau cefn-wrth-gefn yn Stadiwm Principality.

Bydd tîm dynion Cymru yn wynebu’r Baa-baas am y tro cyntaf ers 2012 yng ngêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw.

Bydd Pivac, a fydd yn cymryd yr awenau ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd eleni, yn rheoli’r tîm am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ac yn wynebu ei ragflaenydd yn ei gêm gyntaf gyda Warren Gatland wedi’i enwi fel prif hyfforddwr y Barbariaid ar gyfer yr ornest.

Bydd Gatland, sydd wedi bod yn rheoli Cymru ers 12 mlynedd, yn gadael ei rôl ar ôl CRB yr hydref hwn, ond bydd yn dychwelyd yn syth i brifddinas Cymru a Stadiwm Principality ar gyfer y gêm hon.

Mae merched Cymru yn wynebu’r Barbariaid am y tro cyntaf erioed fel rhan o’r wledd hon o rygbi yng Nghaerdydd. Lansiodd y Barbariaid dîm merched yn 2017 ac mae pob tîm ers hynny wedi cynnwys cynrychiolaeth gref o Gymru, ond hwn fydd y tro cyntaf i ferched Cymru herio’r tîm enwog yn eu cylchoedd gwyn a du.

*Bydd y gic gyntaf yng ngêm Merched Cymru v Y Barbariaid am 11:45am. *Bydd y gic gyntaf yng ngêm Dynion Cymru v Y Barbariaid am 2:45pm. Mae un tocyn yn rhoi mynediad i’r ddwy gêm.

Ar gyfer cyngor teithio a ffyrdd fydd ar gau ar y diwrnod gweler gwybodaeth ar Gwefan Cyngor Caerdydd

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd