May 10

Tywydd poeth

Byddwch yn barod

Gall y gwres fod yn beryglus, yn enwedig i blant ifanc iawn, pobl hŷn, neu bobl â phroblemau iechyd.

Mae’n bwysig bod yn barod drwy wybod beth yw’r tywydd.

Ewch â diod â chi. Mae gan Refill UK app ffôn y gallwch ei lawrlwytho i ddod o hyd i orsafoedd Dŵr am ddim yn agos atoch pan fyddwch chi ar grwydr.

Yn ystod tywydd poeth

  • Yfwch ddigon o hylif, hyd yn oed os nad ydych yn sychedig. Osgowch de, coffi ac alcohol gan y bydd y rhain yn eich gwneud yn ddadhydredig
  • Arhoswch tu mewn Os bydd yn rhaid i chi fynd allan yn y gwres, ceisiwch aros yn y cysgod, defnyddiwch eli haul, gwisgwch het haul a sbectol haul, gwisgwch ddillad ysgafn llac
  • Peidiwch â gadael plant neu anifeiliaid mewn ceir wedi’u parcio. Hyd yn oed ar ddyddiau oer a chyda ffenestri wedi eu gadael ar agor, gall heulwen gref wneud ceir yn boeth iawn
  • Ymwelwch â chymdogion sy’n agored i niwed, ceisiwch ymweld â nhw yn hytrach na’u ffonio gan y gall arwyddion o drawiad gwres a blinder gael eu methu dros y ffôn
  • Pan fyddwch tu mewn, defnyddiwch yr ystafelloedd oeraf a chadwch lenni/bleindiau ar gau mewn ystafelloedd sy’n dal yr haul. Caewch y ffenestri pan fo hi’n oerach tu mwn na rhu allan a’u hagor pan fo’n boethach tu mewn nag allan. Gadewch nhw ar agor yn y nos os yw’n ddiogel.

I gael rhestr fwy cynhwysfawr o bethau i’w gwneud yn y tywydd poeth, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor da ar sut i beidio â gor-boethi’n y tywydd poeth.

Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor defnyddiol ar sut i aros yn ddiogel yn yr haul ac ar y traeth.

Mae gan Age UK gyngor ar aros yn iach yn ystod tywydd poeth i oedolion hŷn.

Ar ôl tywydd poeth

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd