May 09
An artists impression of the new public realm in Central square

Sgwâr Canolog Caerdydd: Bloc chwe llawr i gael ei ddymchwel

Caiff bloc chwe llawr o swyddfeydd a siopau ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer sgwâr cyhoeddus yng nghanol dinas Caerdydd.

Bydd dymchwel adeilad Dewi Sant yn cynnwys cau holl Heol Scott am dair wythnos.

Mae’r gwaith yn rhan o ddatblygiad Sgwâr Canolog ehangach, sy’n cynnwys pencadlys newydd BBC Cymru, adeilad CThEM, a gorsaf bysys ganolog.

Bydd cerflun o’r prifathro du cyntaf yng Nghymru, Betty Campbell, yn cael ei osod yn y sgwâr newydd ar ôl dymchwel Tŷ Dewi Sant. Dewiswyd Betty Campbel gan y miloedd o bobl a bleidleisiodd ym mhôl piniwn BBC Cymru, a bydd y gofeb yn cael ei datgelu yn 2020.

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd