Nov 19

Rhowch anrheg arbennig iawn y Nadolig hwn!

Rhowch yr anrheg o fywyd – gallai un rhodd gwaed fod yn ddigon i achub bywyd babi sydd angen trallwysiad!

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu dros 350 rhodd o waed bob dydd ac mae’n dibynnu’n gyfan gwbl ar wirfoddolwyr i gynnal y cyflenwadau mewn ysbytai yng Nghymru.

Dim ond 3% o bobl yng Nghymru sy’n rhoi gwaed ac mae angen rhoddwyr newydd drwy’r amser!

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Neuadd y Ddinas, yng Nghaerdydd, o ddydd Llun 2 Rhagfyr i ddydd Iau 5 Rhagfyr.

Gallwch glicio yma i drefnu apwyntiad

Galwch heibio yn ystod eich awr ginio, neu rhwng eich siopa Nadolig!

Mwy o wybodaeth: Wasanaeth Gwaed Cymru

#cymuned #gwydnwch #caerdydd

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd