Aug 05
EV Charging Point

Fannau Gwefru CT Newydd

Yn rhan o’i ymrwymiad at gynaladwyedd amgylcheddol, mae Cyngor Caerdydd wedi gosod y cyntaf o’i fannau gwefru cerbydau rydan (CT) cyhoeddus mewn 10 lleoliad yn wardiau Penylan, Glan-yr-afon a Threganna’r Ddinas. Mae’r mannau gwefru sydd eisoes ar waith i’w gweld ar ZapMap.

Darperir y system gan SWARCO eConnect  ac mae’n cynnwys mannau gwefru 7kw fydd yn rhoi gwefriad llawn i gerbyd trydan arferol mewn 4-6 awr. Er mwyn sicrhau bod y mannau gwefru hyn yn cael eu defnyddio’n effeithiol, cyfyngir aros ynddynt am 5 awr, a rhaid i gerbydau fod wedi eu cysylltu â’r gwefrydd pan fyddant wedi eu parcio yno.

Bydd angen i yrwyr gofrestru drwy swarcoeconnect.org neu App E-Gysylltu Swarco ( ar gael ar gyfer teclynnau Android ac OSX). Gellir talu wedyn gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Bwriedir gosod rhagor o fannau gwefru ar hyd a lled y ddinas. I’n helpu i benderfynu ar yr ardaloedd lle byddai mwyaf eu hangen ar breswylwyr, gallwch gynnig lleoliadau newydd drwy gysylltu â:  cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk

Cofiwch awgrymu llefydd:

  • Nad ydyn nhw’n union y tu allan i eiddo preswyl;
  • Sydd â phalmentydd llydan;
  • Sydd â digon o ofod parcio cyhoeddus ar gael; ac
  • Sydd ar strydoedd lle nad oes gan dai dramwyfeydd, garejys preifat neu fannau parcio preifat eraill. (Gall unigolion wneud cais i OLEV os ydynt am grant i osod gwefrydd ar eu heiddo eu hunain)

Byddwn wedyn yn adolygu’r lleoliadau sydd wedi eu hawgrymu ac yn ymgynghori gyda’r cyflenwr trydan lleol (Western Power Distribution).

RHAGLEN EHANGACH

Mae gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith o fannau gwefru CT ar hyd a lled y ddinas i alluogi preswylwyr i yrru a gwefru eu cerbydau trydan yn y ddinas. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu cynllun cyflawni a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion maes o law.

FFLYD Y CYNGOR

Mae’r Cyngor yn cymryd y camau cychwynnol i amnewid cyfran o’i gerbydau fflyd â cherbydau trydan. Mae’r cam cychwynnol yn canolbwyntio ar amnewid ceir bychan a fania dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

NODYN CANLLAW DATBLYGWYR

Mae’r Cyngor wedi nodi’r math a’r nifer o fannau gwefru CT y mae’n disgwyl iddynt gael eu darparu mewn Canllaw i Ddatblygwyr yn y ddinas.

RHAGOR O WYBODAETH

Mae gwefrwyr CT preswyl ar y stryd yn:

  • Asedau sy’n eiddo i’r Cyngor a gaiff eu gosod ar briffyrdd mabwysiedig.
  • Cael eu hystyried yn ‘ddatblygiadau a ganiateir’ gan eu bod yn cael eu darparu gan yr Awdurdod Lleol
  • Cael eu rheoli gan orchmynion cyfreithiol fel mannau parcio dynodedig ar gyfer cerbydau trydan er mwyn i breswylwyr sydd yn dymuno gyrru cerbydau trydan fod â chyfle i wefru eu cerbydau’n agos at eu cartrefi.
  • Cael eu lleoli mewn ardaloedd preswyl, ond nid mewn mannau parcio i breswylwyr neu’n union y tu allan eiddo preswyl.
  • Cael eu gosod mewn mannau lle na fyddant yn rhwystro mynediad i ddefnyddwyr palmentydd.
  • Cael eu gosod ar wahân i gyfarpar seilwaith eraill ar balmentydd.

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd