Aug 17

Cymru v Lloegr – Gêm Ryngwladol yr Haf

Map Unavailable

: 17/08/2019
: 2:15 pm
: Stadiwm Principality


Gyda disgwyl i Gwpan Rygbi’r Byd ddigwydd yn Japan yn ystod hydref 2019, ni fydd unrhyw Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn y DU nac Iwerddon. Fodd bynnag, mae’r pedair undeb gartref – Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban – wedi trefnu cyfres o Gemau Rhyngwladol yr Haf er mwyn paratoi ar gyfer y sioe fyd-eang.

Bydd Cymru yn cystadlu yn erbyn Lloegr yn y Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 17 Awst yn yr ail gêm rhwng y ddau gystadleuwr ffyrnig. Llwyddodd Cymru i guro Lloegr 21-13 mewn gêm lawn cyffro yn ystod twrnamaint y Chwe Gwlad ar y ffordd i ennill y gamp lawn eleni.

Ar gyfer cyngor teithio a ffyrdd fydd ar gau ar y diwrnod cewch wybodaeth ar Wefan Cyngor Caerdydd

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd