Sep 24
30 Days 30 Ways

30 DAYS 30 WAYS UK – Mis Medi yw’r Mis Paratoi

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae ymgyrch 30 Days 30 Ways UK yn annog pobl i fod yn ‘fwy parod ar gyfer argyfyngau’ trwy wneud un her fach pob dydd trwy gydol mis Medi.

Pan fo pobl yn trafod argyfyngau, rydym yn dueddol o feddwl am ddigwyddiadau fel y bomio yn Llundain, tswnamÏau neu drychinebau byd-eang eraill.

Ond, beth os ydyn ni’n dweud wrthych bod paratoi ar gyfer digwyddiadau bach yr un mor bwysig â pharatoi ar gyfer digwyddiadau sy’n bachu prif benawdau’r wasg? Dim trydan, pibellau dŵr yn byrstio, pibellau nwy yn gollwng, streiciau trafnidiaeth, cau ffyrdd … gall amryw o bethau beri anghyfleustra i ni bob dydd.  Nid yn unig byddai cymryd chydig gamau i baratoi yn helpu gyda’r ‘argyfyngau pob dydd’ hyn ond hefyd yn helpu gydag achosion sy’n llawer llai tebygol o ddigwydd.

Cynhelir yr ymgyrch ledled y DU, ar y cyd â phartneriaid cydnerthedd lleol fel y gwasanaethau argyfwng, awdurdodau lleol, cyfleustodau ac iechyd, er mwyn rhoi elfen leol ar 30 o negeseuon pwysig trwy gydol mis Medi.   

Rydym yn annog preswylwyr ledled y DU i feddwl am gamau gweithredu syml fyddai’n eu helpu i gadw eu teuluoedd yn ddiogel pe digwyddai argyfyngau mawr ynghyd â phwysigrwydd cadw llygad ar gymdogion hŷn a’r rheini sy’n agored i niwed.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth ac adeiladu capasiti a galluoedd o’r llawr i fyny fel bod unigolion a chymunedau yn fwy parod a chydnerth.

Dywedodd Joanne Maddams a Monika Al-Mufti, cyd-sylfaenwyr yr ymgyrch: “Dyma bumed pen-blwydd 30 Days Ways UK ac rydym yn hapus iawn gyda’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan ein cydweithwyr o fewn y gymuned cydnerthedd a’r cyhoedd sy’n awyddus iawn i chwarae eu rhan.”

 “Nod yr ymgyrch yw annog pobl i feddwl am beth y byddent yn ei wneud mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd argyfyngus ac i gymryd rhywfaint o gamau syml i hybu eu cydnerthedd personol pe digwyddai argyfwng.

 “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rifyn pumed pen-blwydd ymgyrch #30days30waysUK ar y cyfryngau cymdeithasol. Ynghyd â chydweithwyr ar hyd a lled y DU, rydym wedi creu rhaglen ragorol ‘Mis Medi yw’r Mis Paratoi 2019’ sy’n cynnwys negeseuon pwysig, adnoddau a heriau hwyliog a heriol i bobl allu cymryd rhan ynddynt a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac oddi ar-lein.”

Adnoddau 30 Days 30 Ways

Tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol EVAC Caerdydd

Share news:

Gweithio mewn partneriaeth â...

© EVAC Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd