Map Unavailable
: 18/05/2019
: 12:00 pm - 8:00 pm
: Stadiwm Principality
Ar eich marciau, byddwch barod, ewch… Mae’r gamp benigamp sydd bob amser yn eich diddanu, Monster Jam®, yn dychwelyd i’r Stadiwm Principality i roi profiad annisgwyl, ar hap a bythgofiadwy i’r teulu cyfan.
- Mae tryciau Monster Jam yn 12 troedfedd o daldra a 10 troedfedd o led, gan sefyll ar deiars 66 modfedd o uchder ac yn pwyso o leiaf 12,000 pwys.
- 1,500 i 2,000 o farchnerth sy’n cael eu creu gan y tryciau enfawr hyn a all gyrraedd cyflymderau o hyd at 70 milltir yr awr.
- Gallant hedfan hyd at 125 i 130 troedfedd o ran pellter a hyd at 35 troedfedd yn yr awyr.
Ar ben hynny, mae’r ‘Pit Party’ yn galluogi ffans i gwrdd â’u hoff yrwyr, edrych yn agos at y tryciau Monster Jam a chymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys sesiynau llofnodi a llawer mwy.
Ar gyfer cyngor teithio a ffyrdd fydd ar gau ar y diwrnod gweler gwybodaeth ar wefan Cyngor Caerdydd
Comments are closed.