: 14/03/2020
: 10:45 am - 5:45 pm
: Stadiwm Principality
Dyddiad: Sadwrn 14 Mawrth 2020
Lleoliad: Stadiwm Principality, Caerdydd
Y Gic Gyntaf: 2:15pm
Ffyrdd ar gau i Gerbydau:10:45am
Bydd Cymru’n croesawu eu cefndryd Celtaidd, Yr Alban, yn Stadiwm Principality ar gyfer rownd derfynol y Chwe Gwlad.
Bydd y ddau dîm am orffen yn gryf ar ddiwedd y bencampwriaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gemau rhwng y gwledydd Celtaidd hyn wedi bod yn llawn rygbi gwych, gyda chwarae ardderchog ar y llinell gefn, ac mae diweddglo’r gystadleuaeth eleni’n siŵr o fod yn hynod gyffrous felly.
I gael cyngor ynghylch teithio a’r ffyrdd fydd ar gau ar y diwrnod gweler y wybodaeth ar wefan Cyngor Caerdydd.
Os ydych chi’n teithio i Gaerdydd ar ddiwrnod y gêm, beth am fanteisio ar y ffaith bod heolydd ar gau a dod ar eich beic i’r ddinas…
Comments are closed.